$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 56
$page_id (string) = 56
$page_alias (string) = newyddion
$lang (string) = en_CY
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = cy
$lang_locale (string) = en_CY
$lang_dir (string) = ltr
$canonical (string) = https://www.rhag.cymru/news/21/3/Maniffesto-Rhieni-Dros-Addysg-Gymraeg-Etholiadaur-Senedd-2021
$actionid (string) = cntnt01
$actionparams (array) = [
   .articleid (integer) = 21
   .returnid (string) = 56
   .junk (string) = Maniffesto-Rhieni-Dros-Addysg-Gymraeg-Etholiadaur-Senedd-2021
   .action (string) = defaulturl
   .inline (string) =
   .module (string) = News
]
$returnid (string) = 56
$actionmodule (string) = News
$mod (object of type: News) = {}
$root_lang (string) = cy

Maniffesto Rhieni Dros Addysg Gymraeg Etholiadau'r Senedd 2021

Jun 20, 2020

RhAG yn lansio holiadur effaith cyfnod y clo ar deuluoedd mewn addysg Gymraeg.

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn lansio holiadur heddiw a fydd yn gofyn i rieni nodi effeithiau cyfnod y clo ar eu plant ac arnyn nhw fel rhieni.
Mae wedi bod yn gyfnod hynod ddigynsail gyda’r dysgu a’r addysgu wedi gorfod trosglwyddo o’r dosbarth i’r digidol gan ein gorfodi i fabwysiadu arferion a swyddogaethau newydd.
Mae’r holiadur yn gofyn nifer o gwestiynau am weithgarwch y misoedd diwethaf ac am yr effaith y mae wedi cael ar yr addysgu, yr adnoddau sydd wedi cael eu defnyddio yn ogystal â’r dulliau dysgu ac addysgu.
Pwrpas casglu’r wybodaeth yma fydd medru cyfrannu’r casgliadau at y paratoadau fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Bydd ysgolion a mudiadau ar hyd a lled Cymru’n prysur baratoi i sicrhau bod ein disgyblion yn cael y cyfleoedd gorau i gaffael a defnyddio’r Gymraeg dros y misoedd nesaf. Bydd sicrhau’r adnoddau a’r amgylchiadau gorau i ddatblygu sgiliau dwyieithog ein disgyblion drwy’r dysgu cyfunol yn allweddol ac y mae RhAG yn barod i gynorthwyo i gefnogi’r gwaith pwysig hwn.


Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,
"Gwerthfawrogwn ei bod yn gyfnod pryderus i rieni a disgyblion ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd. Dymuniad RhAG yw deall yn well yr heriau sydd wedi wynebu rhieni a disgyblion dros y cyfnod hwn. Gofynnwn i gymaint o rieni ag y bo modd i gyfrannu ymatebion o Fôn i Fynwy fel y gallwn glywed am ystod eang o brofiadau ac adnabod yr heriau, gan edrych ar beth sydd angen o ran adnoddau a chymorth ymarferol i rieni dros y misoedd nesaf.”
Bydd yr holiadur yn cael ei rannu’n eang ar draws ein cyfryngau cymdeithasol a gofynnwn i ysgolion a mudiadau rannu’r holiadur gyda’u cymunedau hwythau yn ogystal.
Rydym am ddiolch i rieni, disgyblion a staff ein hysgolion, ein hawdurdodau lleol a’n llywodraeth ganol am yr ymdrech arwrol sydd wedi mynd i sicrhau parhad i addysg Gymraeg ein plant.

Gellir dod o hyd i'r ddolen yma tan 20.7.2020
https://forms.gle/SvdS9hXeWVeRK7Fn6


RhAG yn galw ar Gyngor Dinas Caerdydd i ymateb ar fyrder i sefyllfa prinder lleoedd yn ysgolion gogledd-canol Caerdydd.

Mae Mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi derbyn nifer o gwynion dros yr wythnosau diwethaf gan rieni sy’n pryderu na fydd modd i’w plant gael mynediad i Addysg Gymraeg o fewn eu dalgylch yn ardal gogledd-canol Caerdydd.

Mae rownd gyntaf ceisiadau ysgolion eleni wedi ei gwblhau a nifer o rieni, er wedi nodi hyd at 3 ysgol gynradd Gymraeg o fewn pellter rhesymol i’w cartref, wedi derbyn llythyron gan y Cyngor yn nodi nad oes llefydd ar gael i’w plant ar gyfer mis Medi ac i wneud cais ar gyfer ysgolion eraill. Maent yn paratoi eu hapeliadau ar hyn o bryd.

Deallwn fod niferoedd ymgeisio ar gyfer Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd wedi cynyddu’n arwyddocaol eleni ac y mae hyn yn newyddion calonogol iawn i’r Sir. Ond y mae perygl y byddwn yn colli’r disgyblion hyn os byddant yn gorfod teithio’n rhy bell i’r ysgol o’u cartrefi.

Nid problem newydd yw hyn.

Deallwn hefyd i’r Sir dderbyn cyllid o dan Grant Cyfalaf Addysg Gymraeg (1) Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn yn 2018, yn benodol i ehangu darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd Caerdydd. Dymuna RhAG wybod at ba bwrpas y defnyddiwyd y cyllid hwn gan bwyso ar y Sir i ganfod datrysiad brys i’r rhieni hyn erbyn Medi 2020.

Gwyddom fod tua 15 o blant wedi eu gwrthod eleni i Ysgol Mynydd Bychan sydd yn byw yn nalgylch yr Ysgol.

Noda Michael Jones, RhAG Caerdydd:

“Mae RhAG yn annog Cyngor Caerdydd i wneud yr hyn y mae wedi'i wneud lawer gwaith o'r blaen ac agor “egin ddosbarth” dan oruchwyliaeth Ysgol Mynydd Bychan mewn adeilad agos. Yr hyn y mae'n rhaid i'r sir ei wneud yw defnyddio ei phwerau i ymateb i'r argyfwng hwn ac agor un neu fwy o "egin ddosbarthiadau " yn yr ardal canol-gogledd Caerdydd i ymdopi â beth bynnag yw'r gwir alw yn yr ardal hon.”

-

MAE RhAG wedi llongyfarch Cyngor Bro Morgannwg ar benderfyniad holl bwysig i agor ysgol Gymraeg fel rhan o ddatblygiad y Glannau, yn y Barri.

Daw hyn wrth i'r Cabinet gymeradwyo gweithredu cynnig i ehangu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Barri, trwy gynyddu capasiti Ysgol Sant Baruc o 210 o leoedd i 420 o leoedd a throsglwyddo staff a disgyblion o'r safle presennol i'r adeilad ysgol newydd a gaiff ei hadeiladu fel rhan o ddatblygiad y Glannau, ym Medi 2021.

Meddai Mark Bowen ar ran RhAG Bro Morgannwg,

"Rydym wedi ymgyrchu ers cryn amser o blaid y cynnig i symud Ysgol Sant Baruc i'r Glannau. Rydym yn croesawu'n frwd gyhoeddiad y Cabinet heddiw.

"Dyma benderfyniad arwyddocaol iawn yn hanes twf Addysg Cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth, gan ddangos sut y mae modd iddo fod yn elfen canolog mewn datblygiadau tai mawr newydd.

"Bydd hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed.

"Rydym yn diolch i Gabinet Cyngor Bro Morgannwg am eu gweledigaeth: mae’n ddiwrnod da iawn i Ysgol Sant Baruc ac i ddyfodol yr iaith Gymraeg yn Y Barri.”

Diwedd