Elin Maher, Casnewydd
Cyfarwyddwr Cenedlaethol
Mae Elin wedi bod yn ymgyrchydd dros Addysg Gymraeg yn y De Ddwyrain ers dros ugain mlynedd erbyn hyn. Daw yn wreiddiol o Glydach, Cwm Tawe ond wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd ers 2001. Mae ganddi dri o blant a gŵr sydd wedi dysgu Cymraeg. Gweithiodd Elin yn galed i sicrhau bod 3 ysgol gynradd Gymraeg ac un uwchradd yn agor yn y ddinas ers iddi gyrraedd. Mae'r ysgolion yn mynd o nerth i nerth a mwy o blant yn cael y cyfle o fedru siarad o leiaf dwy iaith yn gynnar iawn. Mae ganddi wybodaeth eang o brosesau trefniadaeth ysgolion ac y mae wedi gweithio'n strategol gyda chynghorau lleol a llywodraeth genedlaethol ar faterion dyrys dros y blynyddoedd. Mae hyrwyddo addysg Gymraeg yn allweddol i waith Elin ac y mae sicrhau bod systemau effeithiol a hawdd ynghyd â darpariaeth addysg Gymraeg hygyrch ac o safon uchel yn flaenoriaeth iddi. Y mae wedi gweithio fel llywodraethwr hefyd yn holl ysgolion Cymraeg Casnewydd er mwyn sicrhau cefnogaeth wrth iddynt dyfu.