$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 59
$page_id (string) = 59
$page_alias (string) = archif-newyddion
$lang (string) = en_CY
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = cy
$lang_locale (string) = en_CY
$lang_dir (string) = ltr
$canonical (string) = https://www.rhag.cymru/news/26/3/Diwrnod-Rhyngwladol-Amlieithrwydd-hyrwyddo-Addysg-Gymraeg-yn-amlieithog
$actionid (string) = cntnt01
$actionparams (array) = [
   .articleid (integer) = 26
   .returnid (string) = 59
   .junk (string) = Diwrnod-Rhyngwladol-Amlieithrwydd-hyrwyddo-Addysg-Gymraeg-yn-amlieithog
   .action (string) = defaulturl
   .inline (string) =
   .module (string) = News
]
$returnid (string) = 59
$actionmodule (string) = News
$mod (object of type: News) = {}
$root_lang (string) = cy

Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd: hyrwyddo Addysg Gymraeg yn amlieithog

Mar 5, 2019

I GYD-FYND â Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd, a gynhelir am y tro cyntaf erioed yfory (27 Mawrth), bydd RhAG yn lansio taflenni amlieithog er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg i gymunedau amlddiwylliannol Caerdydd a thu hwnt.

I GYD-FYND â Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd, a gynhelir am y tro cyntaf erioed yfory (27 Mawrth), bydd RhAG yn lansio taflenni amlieithog er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg i gymunedau amlddiwylliannol Caerdydd a thu hwnt.

Mae'r daflen, sy'n hyrwyddo manteision addysg Gymraeg, wedi ei chyfieithu i 9 o'r prif ieithoedd a siaredir yn y brifddinas, sef Arabeg, Bengali, Cwrdeg, Farsi, Hindi, Pwnjabi, Pwyleg, Somali ac Urdu.

Caiff y taflenni eu cyhoeddi fel adnodd dilynol i ffilm fer a lansiwyd y llynedd, oedd yn brosiect ar y cyd rhwng RhAG, Ymgyrch TAG a chwmni Orchard ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n anelu i gyflwyno profiadau rhieni a disgyblion am addysg Gymraeg.

Awgrymwyd dyddiad Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd gan Dr Thomas Bak, Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caeredin, a chefnogwyd y syniad gan Ute Limacher, perchennog International Lounge a Dr.Cate Hamilton, cyd-sylfaenydd Babel Babies. Mae'n nodi'r dyddiad a ysgythrwyd ar Garreg Rosetta (27 Mawrth 196 BC), y gellid dadlau yw testun amlieithog mwyaf enwog y byd.

Meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG,

"Yr ysbrydoliaeth ar gyfer cynhyrchu'r taflenni hyn oedd agor Ysgol Hamadryad yn 2016, sef yr ysgol Gymraeg gyntaf i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt – dwy o ardaloedd mwyaf amlieithog ac amlddiwylliannol Cymru.

"Yn ganolog i’r ymgyrch wrth sefydlu'r ysgol, roedd y dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg. Ac felly mae'r taflenni hyn yn torri tir newydd o ran cyflwyno’r Gymraeg i gymunedau newydd a'i gosod mewn cyd-destun amlieithog fel sydd i'w gael yng Nghaerdydd. Gwyddom fod Catalwnia yn gwneud llawer i hyrwyddo’r Gatalaneg mewn ieithoedd eraill ac felly dyma ymdrech i ddechrau ar y gwaith pwysig hwnnw yma yng Nghymru.

"Ein prif neges felly yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n dewis byw yng Nghymru. Hyderwn y bydd y taflenni a'r ffilm fel pecyn cyfannol yn fodd o ddathlu hynny ac yn ein galluogi i rannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu'r teimlad o berthyn. Rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb.

"Mae siwrnai gyffrous o’n blaenau wrth i unigolion a chymunedau newydd gofleidio’r Gymraeg am y tro cyntaf - cymunedau sydd eisoes yn amlieithog - ac mae lledaenu'r neges fod addysg Gymraeg yn hygyrch i bob cymuned yn rhan annatod o’r daith honno.”

Meddai Trefnwyr Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd 2019,

"Mae pawb yn ieithydd. Mae pobl yn siarad. Dyma beth mae pobl yn ei wneud. Fel rhywogaeth rydym wedi esblygu dros filoedd o flynyddoedd ac wedi addasu i siarad mwy nag un iaith yn hawdd iawn."

"Ond rywsut mae'r drafodaeth wedi newid dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf a'r canfyddiad yn amlach na pheidio yw bod siarad mwy nag un iaith yn rhywbeth afreolaidd, neu unigryw, er bod mwy na dwy ran o dair o boblogaeth y byd yn siarad dwy iaith neu fwy yn eu bywydau bob dydd."

"Nod Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd yw dathlu amrywiaeth ieithyddol a'r ffordd aml-haenog, amlieithog y mae pobl yn defnyddio ieithoedd bob dydd."

"Gobeithiwn y bydd hadau'r diwrnod, fel yr ieithoedd eu hunain, yn ffynnu ac yn tyfu mewn amrywiol ffyrdd wrth i wahanol gymunedau a chefnogwyr eu cofleidio ar 27 Mawrth. Mae amlieithrwydd yn gyffredin. Gadewch i ni ei ddathlu, yn ei holl ffurfiau! "

Diwedd