$SCRIPT_NAME (string) = /index.php
$app_name (string) = callable
$sitename (string) = RHAG
$content_obj (object of type: Content) = {}
$content_id (string) = 42
$page_id (string) = manteision
$page_alias (string) = manteision
$lang (string) = en_CY
$encoding (string) = utf-8
$lang_extra (string) =
$lang_parent (string) = cy
$lang_locale (string) = en_CY
$lang_dir (string) = ltr
$root_lang (string) = cy

Manteision Addysg Gymraeg

Beth yw Addysg Gymraeg?

Cyn cychwyn ar rannu'r manteision, gwell fyddai cychwyn gydag esbonio sut y mae Addysg Gymraeg yn gweithio yng Nghymru.

Mae Addysg Gymraeg yn cychwyn yn y blynyddoedd cynnar gyda'r cylch Ti a Fi, yna'r cylch Meithrin ac yna'r dosbarth Meithrin yn yr ysgol gynradd sydd yn arwain at y dosbarth Derbyn.

Gan ddibynnu ar wahanol ardaoledd Cymru, mae yna addysg drochi llwyr mewn ysgolion penodedig a thraddodiadol, sydd yn golygu bod y plant yn cael eu hamgylchynnu gyda'r Gymraeg o oedran cynnar. Mae hyn yn ddull sydd wedi ei ddefnyddio'n rhyngwladol ers nifer o ddegawdau erbyn hyn. Mae'n rhoi'r iaith yn ddwys yn y blynyddoedd cynnar fel bod y Gymraeg yn cael ei gaffael cyn gynted ag y bo modd. Gan fod y Gymraeg yn iaith sydd yn cael ei siarad yn llai mewn rhai cymunedau, mae'r dull hwn yn sichrau bod pob agwedd o fywyd ysgol y plentyn yn digwydd yn y Gymraeg. Mae hyn yn bwysig gan bod angen i ni fedru defnyddio'r Gymraeg mewn llawer o gyd-destunau gwahanol i'w dysgu ac i'w defnyddio ym mhob rhan o fywyd hefyd. Felly dyna pam mae holl waith yr ysgol fel arfer yn y Gymraeg - heblaw am y gwersi Saesneg ac ieithoedd eraill sy'n cael eu dysgu yn yr ysgol. 

Bydd y Saesneg yn cael ei addysgu'n ffurfiol o flwyddyn 3 ac erbyn bod y disgyblion yn cyrraedd diwedd yr ysgol gynradd mae holl sgiliau dwyieithog y disgybl wedi cael cyfle cadarn i ddatblygu - y llafar, yr ysgrifennu, y gwrando a'r darllen. 

Serch hynny, mae'r cyfathrebu gyda rhieni yn ddwyieithog fel bod pawb yn gwybod beth sy'n digwydd gyda gwaith cartref, teithiau, cyngherddau ac wrth gwrs digwyddiadau cymdeithasol pwysig yr ysgol! Mae gan ysgolion gyfoeth o amrywiaeth ledled Cymru ac rydym yn dathlu hyn ar ben y gallu i siarad Cymraeg!